Rheilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:06, 12 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Rheilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (neu'r "LMS") ym 1923, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd tan-fuddsoddi yn ystod y Rhyfel ynghyd â defnydd trwm iawn o'u cyfleusterau i symud milwyr ac arfau wedi gadael y cwmnïau rheilffyrdd mewn cyflwr anhyfyw a thrwy broses o'u grwpio at ei gilydd (proses a sonnir yn Saesneg amdani fel the Railway Grouping) fe ffurfiwyd pedwar cwmni mawr ar draws Prydain. Ymunodd hen gwmni Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) â Rheilffordd Canolbarth Lloegr (sef y Midland Railway]]) a nifer o gwmnïau llai i ffurfio'r LMS. O hynny tan 1947, pan wladolwyd y rheilffyrdd bron i gyd i ffurfio Rheilffyrdd Prydeinig, dyma'r cwmni oedd yn gyfrifol am reilffyrdd lled safonol (sef 4'8 1/2" rhwng y cledrau) yng Ngogledd Cymru.

Rheilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban felly oedd wedi cymryd hen lein Rheilffordd Sir Gaernarfon o Gaernarfon i Afon-wen drosodd ym 1923, ynghyd â Changen Nantlle - a gaewyd i deithwyr ganddynt ym 1931.