Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:41, 11 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pontlyfni yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned Llanllyfni. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach. Mae siop ceginau a modurdy sy'n arbenigo mewn cerbydau amaethyddol a masnachol yn dal yno, a nifer o safleoedd i wersylla a charafanio. Mae Pont-y-Cim gerllaw. Yr oedd Melin-y-Cim yn y pentref.

Carreg fellt Pontllyfni

Mae Pontllyfni yn enwog hefyd ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (neu 'garreg fellt') i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang. Dyma beth mae'r cylchgrawn Y Gwyddonydd yn ei ddweud am y lle y glaniodd y garreg fellt:

"Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gŵr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn-nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-las."[1]

Bu cryn helbul wedyn hefyd wrth i'r Amgueddfa Brydeinig geiso prynu'r garreg fellt gan y perchennog newydd, Mr John R Jones o ardal Llanrhystud - gwrthododd yntau'i werthu. Ym 1977 cyflwynodd y garreg i'r amgueddfa. Sonnir am y garreg fellt fel "The Pontllyfni meteorite" yn y papurau seryddol - ond dan y sillafiad amgen 'Pontlyfni' yn aml y'i rhestrir. Dim ond dwy garreg fellt sydd erioed wedi taro'r ddaear yng Nghymru i sicrwydd: y naill ym Mhontllyfni a'r llall tua bymtheg milltir i ffwrdd ochr bella crib Nantlle, ym Meddgelert ym 1949.[2][3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Gwyddonydd
  2. Gwefan Bryn Jones
  3. Gwybodaeth gan Wicipedia