Melin Bryn-y-gro
Roedd Melin Bryn-y-gro ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf Llanllyfni. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rheilffordd i fferm Bryn-y-gro. Melin ŷd a drowyd gan ddŵr oedd y felin hon, ac roedd ffrwd felin wedi ei gwneud i gludo dwr yr afon yn uwch i fyny na'r felin i lyn melin. Fe'i dangosir ar fap Ordnans 25" i'r filltir a gyhoeddwyd ym 1918 fel melin oedd yn dal i droi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma