Ffynnon y Doctor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 16 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon y Doctor ar lethrau Garnedd Goch ym mhlwyf Llanllyfni. Fe'i enwir ar ôl "Yr Hen Ddoctor Mynydd", sef David Thomas Jones, a arferai ddefnyddio dwr o'r ffynnon. Y traddodiad oedd ei bod yn ffynnon iachusol, gyda'r dŵr yn dda at drin y crydcymalau a'r eryr. O gael ei dadansoddi'n gemegol fodd bynnag, cafwyd nad oedd y dwr yn wahanol yn gemegol i'r hyn a geir yng nghronfa ddŵr Llyn Dulyn.

Mae rhywfaint o gerrig a osodwyd fel ymylon neu balmant i'w gweld o gwmpas y ffynnon, gan ddangos ei fod wedi ei fod yn gyrchfan ar un adeg.[1]

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1]