Afon Llyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:46, 12 Mai 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Llyfnwy yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae hi'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trwy Llyn Nantlle Uchaf, heibio pentrefi Tal-y-sarn a Llanllyfni (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, Rhedyw Sant, ac ymlaen hyd Pontlyfni gan arllwys i'r môr ym Mae Caernarfon yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn nantlle Uchaf, yw Afon Drws-y-coed.

Yr oedd nifer o felinau ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel arfer, mae digon o ddwr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dwr yn ôl i'r afon fawr.

Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Categeori:Afonydd