Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:22, 5 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Undeb Gwarcheidaid Pwllheli yn sgil Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion (the Poor Law Amendment Act, 1834). Cyn hynny, y plwyfi unigol (dan arolygaeth yr ynadon yn y Llys Chwarter) oedd wedi bod yn gyfrifol am gynnal eu tlodion eu hunain, ond oherwydd symudiadau yn y boblogaeth a phwysau ar ambell i blwyf, ffurfiwyd undebau, sef cynghreiriau o blwyfi i ofalu ar y cyd am dlodion yr ardal, gyda thloty, neu "wyrcws", ym mhos undeb.

Yr oedd Uwchgwyrfai yn cael ei rannu rhwng ddwy undeb: Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon ac Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli. Llanaelhaearn oedd unig blwyf Uwchgwyrfai i syrthio o fewn ffiniau Undeb Pwllheli.ym 1837, penodwyd John Lloyd, Trallwyn, yn gadeirydd. Etholwyd gwarcheidwad ar gyfer pob plwyf. Yn achos Llanaelhaearn, etholwyd Robert Jones, Uwchlaw'r Ffynnon. Gwerth trethiannol Llanaelhaearn ar gyfer ardreth y tlodion oedd £195.

Gweler hanes yr Undeb yn llawnach ar wefan Rhiw.com[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau