Owen Wynne Jones (Glasynys)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:28, 23 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Glasynys.jpg
llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed fynd i Ysgol gynradd Bron-y-foel fel ddisgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion ysgol Clynnog Fawr hyd 1855, ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trôdd at wasanaethu ynyr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadoig ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.

Fe'i gofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan"., yn benodol pan oedd yn ysgrifennau am fywyd gwerin y wlad a stareon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn rywfaint o arloeswr. Dichon mai y llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[1] yw'r unig ffynhonell o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd gael gafael arni.

  1. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)