Dinas y Pryf
Mae Dinas y Pryf yn safle amddifynnol ym mhlwyf Llanwnda, wrth y lôn sy'n rhedeg o gyfeiriad Rhedynogfelen i Felinwnda.
Mae'n lloc (enclosure) Rhufeinig ym mhlwyf Llanwnda yn ôl yr astudiaethau diweddaraf. Amgylchynnir y lloc hwn gyda ffoes a chlawdd allanol, ac mae pob congl o’r lloc yn codi tua 4 troedfedd i greu tomen gylchog.
Credir i’r lle hwn fod yn leoliad arwyddocaol yn ei gyfnod, ac o bosib wedi bod yn gartref neu’n ganolfan filwrol i arweinydd.[1]
Mae olion math o gytiau neu aneddiadau sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Mae hefyd rhywfaint o ol mwnt o'r Canol Oesoedd yma hefyd. Mae ar ffurf sgwar wedi amgylchynu gan ffos a chlawdd, 168tr wrth 156tr. Ar y pedwar cornel y mae pentwr o bridd tua 4tr o uchder.[2]
Safle archaeolegol yng nghymuned Llanwnda, Gwynedd, yw Dinas y Pryf[1] (map OS: Dinas y Prif), lle ceir olion math o gytiau aneddog hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn; cyfeiriad grid SH464577. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol. Ceir olion mwnt canoloesol ar y safle hefyd.[3]
Mae CADW yn hawlio bod y safle'n bwysig oherwydd iddi ddangos tystiolaeth o drefniadau amddiffynnol ac aneddiadau'r Rhufeiniaid.[4]
Mae traddodiad lleol yn honni mai dyma oedd preswylfod dyn o'r enw Gibor, Goidel neu Wyddel, ond ni wyddys dim oll amdano fel arall.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma