Sianel Gwŷr Nefyn
Sianel Gwŷr Nefyn yw'r enw ar y sianel i'r de o Gefnen Dywod Creigiau Gleision (neu Mussle Bank) a Chefnen Dywod Ddeheuol Abermenai oddi ar draeth Dinas Dinlle,a dyma oedd y llwybr byrraf i'r rhai oedd yn hwylio o Nefyn i borthladd Caernarfon.[1] Fe'i dangosir ar fap Lewis Morris (1748). Arferai nifer o gychod hwylio ar hyd yr arfordir, yn arbennig cyn dyddiau'r ffyrdd tyrpeg, gan ei bod yn haws cludo nwyddau trymion ar ddŵr cyn i'r ffyrdd gael eu gwella.
Cyfeiriadau
- ↑ J. Richard Williams, Croesi i Fôn, ((Llanrwst, 2017), t.22.