Sianel Gwŷr Nefyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:40, 17 Ebrill 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sianel Gwŷr Nefyn yw'r enw ar y sianel i'r de o Gefnen Creigiau Gleision (neu Mussle Bank) oddi ar draeth Dinas Dinlle,a dyma oedd y llwybr byrraf i'r rhai oedd yn hwylio o Nefyn i borthladd Caernarfon.[1] Fe'i dangosir ar fap Lewis Morris (1748). Arferai nifer o gychod hwylio ar hyd yr arfordir, yn arbennig cyn dyddiau'r ffyrdd tyrpeg, gan ei bod yn haws cludo nwyddau trymion ar ddŵr cyn i'r ffyrdd gael eu gwella.

Cyfeiriadau

  1. J. Richard Williams, Croesi i Fôn, ((Llanrwst, 2017), t.22.