George Borrow
Ymwelodd George Borrow, y nofelydd ac ysgrifennwr llyfrau taith, â chyrion Uwchgwyrfai ar daith trwy Eryri tua 1861, pan oedd yn gwneud ymchwil ar gyfer ei lyfr taith enwog, Wild Wales. Canolbwyntiodd ar yr ardaloedd o gwmpas Llangollen a Wrecsam, fodd bynnag, ac er iddo fentro i Eryri o leiaf unwaith a threulio amser ar Ynys Môn, ni fentrodd i Uwchgwyrfai heblaw am Ddyffryn Gwyrfai pan oedd ar daith i Feddgelert o Gaernarfon. Soniodd am Pen Drws Coed, sef Mynyddmor, gan nodi ei fodyn debyg i eliffant ar ei orwedd. Ar ol galw am luniaeth yn nhafarn Betws Garmon,aeth heibio i Lyn Cwellyn, lle mae'n cofnodi ei fod yn ddwfn iawn, a bod llawer o frithyll, pewnhwyaid a thorgochiaid yn cael eu dal yno.
Wild Wales a anogodd lawer iawn o bobl i ymweld â'r ardal am y tro cyntaf, yn arbennig gan fod rheilffyrdd yn dechrau hwyluso teithio i Gymru o ardaloedd poblog Lloegr.
Am fanylion cyffredinol amdano, gweler Wicipedia: [1]