Tristian Evans

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:42, 16 Ebrill 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tristan Evans, Llanllyfni

Cerddor o fri yw Tristian Evans, Llanllyfni.

Mae'n Gymrawd yr Ysgolion Cerdd Brenhinol – anrhydedd a ddyfarnwyd iddo wedi iddo gyflwyno datganiad o waith y cyfansoddwr Ravel yn Eglwys Ysgol Sant Paul yn Llundain, Gorffennaf 2017. Cyn hyn roedd wedi ennill gradd B.Mus (anrhydedd dosbarth cyntaf) yn 2006, M.A. a Ph.D. Mae ei waith ymchwil, gan gynnwys gwaith ar Philip Glass, y cyfansoddwr Americanaidd, wedi ennill cynulleidfa ryngwladol iddo.

Mae'n byw adref yn ei filltir sgwâr yn Llanllyfni efo’i wraig Lucy, yn agos at ei dad, Stan Evans, ac yn rhoi gwersi piano i blant lleol.[1]

Mae o hefyd wedi ymchwilio i hanes Siôn Gwynedd.

  1. Lleu rhif 480, Tachwedd 2016, tud. 11