Chwedl Ffynnon Digwg

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:31, 1 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedl yw’r stori am Ffynnon Digwg. Enwir ffynnon ar ôl Digwg ar dir Pennarth, Clynnog Fawr, sef Ffynnon Ddigwg.

Credir iddi ei selio dros ddigwyddiadau yng Nghyfnod Beuno Sant. Yn ôl adroddiad W. R. Ambrose, roedd march o hen faenor Pennarth wedi mynd i Aberffraw i weithio, ac yno y bu iddo gyfarfod merch o Lys Ynyr Gwent. Bu i’r ddau briodi, a daeth y gwr ifanc a’i wraig newydd adref i’w gartref ger Pennarth. Ar ôl y siwrne hirfaith, roedd y ferch wedi disgyn i gysgu yn ei chartref newydd, ac ar ôl edrych ar ei gartref roedd y gwr ifanc yn teimlo cywilydd oherwydd ei fod ddim o safon uchel. Mewn moment o wallgofrwydd, llofruddiodd ei wraig newydd tra roedd yn cysgu a thorodd ei phen i ffwrdd.

Aeth yntau yna oddi adref i weithio, gan adael corff ei wraig yn y tŷ gan anghofio popeth am yr hyn a ddigwyddodd y noson honno. Yna, digwyddodd fugeiliaid Beuno Sant gerdded ger cartref y gwr ifanc, a darganfuwyd ei chorff anffurfiol. Rhoddwyd wybod i Beuno ar frys, a daeth yno i weld beth oedd wedi digwydd. Wrth weld corff y ferch ifanc, rhodd weddi drosti hi mewn gobaith y byddai gwyrth yn rhoi ei bywyd yn ôl iddi. Daeth ei obeithion yn wir, a daeth bywyd yn ôl iddi ar unwaith, a bu iddi addo ei bod am wasanaethu Beuno fel diolch iddo am ei hatgyfodi.

Yn y man lle llofruddiwyd y ferch, yr ‘run man lle bu iddi ei chyfodi yn ôl yn fyw gan Beuno – cododd ffrwd o ddŵr ac yma adeiladwyd Ffynnon Digwg, a’i henwi ar ôl y ferch.[1]

Fersiwn arall o'r un stori a geir mewn ffynonellau eraill, er bod y stori'n amlwg yr un un. Yn llyfr Francis Jones, ceir y canlynol sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys y Brenin Ynyr, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint ohono fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr o Fôn yn dechrau poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Bennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi â'r ddaear.

Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithio mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd wedyn. Adroddir stori cyffelyb am Sant Beuno mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.[2]

Cyfeiriadau

  1. Ambrose, W. R. ‘’Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle’’ (Penygroes, 1872) t.56-57
  2. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954), t.38.