Morris Roberts (Eos Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:16, 8 Mawrth 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tad y Barch Ganon Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) oedd Morris Roberts (Eos Llyfnwy) (c1797-1876). Melinydd oedd o o ran ei aledigaeth a dywedir mai fo, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref Y Bontnewydd. [1]

Mab ydoedd i Robert Morris (Robin Ddu Eryri) ac fe'i anwyd yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Elis Wyn o Wyrfai iddo a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, a dichon felly mai ef oedd meliynydd Melin Llwyn-y-gwalch ar y pryd.[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810