Cim, Carmel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:13, 6 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cim yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref Carmel ym mhlwyf Llandwrog, ger dreflan Capel-y-bryn. Ystyr Cim yn ôl y Dr Glenda Carr yw 'tir comin'. Bu adeg pan oedd llawer o ucheldir plwyfi Uwchgwyrfai sydd heddiw wedi'i amgáu yn dir agored a ddefnyddid gan y plwyfolion i bori anifeiliadaid ac i godi mawn. Mae llawer o dir ardal y Cim heb derfynnau hyd heddiw, ond ymddengys fod yr enw wedi'i gofnodi mor gynnar â 1604.[1]. Erbyn 1810, roedd tŷ o'r enw Glanrafon y Cim yno, ac un Thomas Roberts, teiliwr, yn byw yno.[2].Y cwestiwn yw hyn: a yw ardal y Cim wedi crebachu wrth i fwy o'r comin gael ei droi'n dyddynod ar gyfer y chwarelwyr, neu a oedd yr ardal dan sylw'n cael ei neilltuo'n arbennig at ddefnydd y gymuned cyn hynny?

Dichon mai'r un gair sydd yn enw Pont-y-cim ger Pontlyfni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, t.119
  2. Archifdy Caernarfon, X/Poole/2574