Cim, Carmel
Mae Cim yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref Carmel ym mhlwyf Llandwrog, ger dreflan Capel-y-bryn. Ystyr Cim yn ôl y Dr Glenda Carr yw 'tir comin'. Bu adeg pan oedd llawer o ucheldir plwyfi Uwchgwyrfai sydd heddiw wedi'i amgáu yn dir agored a ddefnyddid gan y plwyfolion i bori anifeiliadaid ac i godi mawn. Mae llawer o dir ardal y Cim heb derfynnau hyd heddiw, ond ymddengys fod yr enw wedi'i gofnodi mor gynnar â 1604.[1]. Y cwestiwn yw hyn: a yw ardal y Cim wedi crebachu wrth i fwy o'r comin gael ei droi'n dyddynod ar gyfer y chwarelwyr, neu a oedd yr ardal dan sylw'n cael ei neilltuo'n arbennig at ddefnydd y gymuned cyn hynny?
Dichon mai'r un gair sydd yn enw Pont-y-cim ger Pontlyfni.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, t.119