Chwedl Ffynnon Digwg

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:03, 4 Mawrth 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedl yw’r stori am Ffynnon Digwg.

Credir iddi ei selio dros ddigwyddiadau yng Nghyfnod Beuno Sant. Yn ôl adroddiad W. R. Ambrose, roedd march o hen faenor Pennarth wedi mynd i Aberffraw i weithio, ac yno y bu iddo gyfarfod merch o Lys Ynyr Gwent. Bu i’r ddau briodi, a daeth y gwr ifanc a’i wraig newydd adref i’w gartref ger Pennarth. Ar ôl y siwrne hirfaith, roedd y ferch wedi disgyn i gysgu yn ei chartref newydd, ac ar ôl edrych ar ei gartref roedd y gwr ifanc yn teimlo cywilydd oherwydd ei fod ddim o safon uchel. Mewn moment o wallgofrwydd, llofruddiodd ei wraig newydd tra roedd yn cysgu a thorodd ei phen i ffwrdd.

Aeth yntau yna oddi adref i weithio, gan adael corff ei wraig yn y tŷ gan anghofio popeth am yr hyn a ddigwyddodd y noson honno. Yna, digwyddodd fugeiliaid Beuno Sant gerdded ger cartref y gwr ifanc, a darganfuwyd ei chorff anffurfiol. Rhoddwyd wybod i Beuno ar frys, a daeth yno i weld beth oedd wedi digwydd. Wrth weld corff y ferch ifanc, rhodd weddi drosti hi mewn gobaith y byddai gwyrth yn rhoi ei bywyd yn ôl iddi. Daeth ei obeithion yn wir, a daeth bywyd yn ôl iddi ar unwaith, a bu iddi addo ei bod am wasanaethu Beuno fel diolch iddo am ei hatgyfodi.

Yn y man lle llofruddiwyd y ferch, yr ‘run man lle bu iddi ei chyfodi yn ôl yn fyw gan Beuno – cododd ffrwd o ddŵr ac yma adeiladwyd Ffynnon Digwg, a’i henwi ar ôl y ferch.

Cyfeiriadau

Ambrose, W. R. ‘’Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle’’ (Penygroes, 1872) t.56-57

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma