Cwmni Moduron Caernarfon
Un o gwmnïau bysiau cynharaf i redeg o Gaernarfon i Lanaelhaearn a Phwllheli oedd Cwmni Moduron Caernarfon (neu'r Caernarvon Motor Co.). Ceir amserlen yn y Genedl Gymreig ar gyfer Medi 1916 sydd yn dangos eu gwasanaeth trwy Uwchgwyrfai. Rhedai'r cwmni fysiau i Fethel, Ebeneser (Deiniolen) a Dinorwig (Llwybr Taith 2); a Waunfawr, Rhyd-ddu a Beddgelert (Llwybr Taith 3).[1]
Amserlen 1916
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Genedl Gymreig, 19 Medi 1916, t.8.