Cwmni Bysiau Busy Bee
Cwmni o Gaernarfon oedd Cwmni Bysiau Busy Bee. Richards oedd cyfenw'r percennog. Fe werthwyd y cwmni i Gwmni Bysiau Crosville yn ystod mis Tachwedd 1925. Roedd ganddynt ddau brif daith, o Gaernarfon i Borthmadog a Phwllheli. Rhoddodd Crosville rhif 535 ar eu taith i Bwllheli, a 538 ar y daith i Bwllheli.[1]
Wrth werthu'r cwmni, trosglwyddwyd pedwar bws i Gwmni Crosville:
- bws AEC, model 503, 36 o seddau, rhif CC 5011, y rhoddwyd rhif fflîd 197 iddo gan Crosville.
- bws AEC, model 505, 32 o seddau, rhif CC 5124, y rhoddwyd rhif fflîd 198 iddo gan Crosville.
- bws Lancia Pentaiota, 26 o seddau, rhif CC 4860, y rhoddwyd rhif fflîd 199 iddo gan Crosville.
- bws Lancia Pentaiota, 26 o seddau, rhif CC 4958, y rhoddwyd rhif fflîd 200 iddo gan Crosville.
Dichon nad oedd y ddau Lancia yn plesio'r cwmni newydd, gan i'r ddau gael eu gwerthu ym 1926. Gwaredwyd yr AEC cyntaf ym 1928 ond roedd y llall yn para hyd 1931.[2]
Ceir llun da o un o'r bysiau Lancia ym Mhorthmadog ym 1924 ar dudalen Flickr Martin Pritchard, [3].