Gorsaf reilffordd Bryngwyn
Gorsaf Bryngwyn oedd yr orsaf derfynnol ar gyfer teithwyr ar gangen Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ("y North Wales Narrow Gauge Railways") a gychwynnodd o'r prif lein yng Nghyffordd Tryfan ac yn rhedeg trwy Rostryfan. Safai ar waelod incléin hir a gludai wagenni llawn o lechi o chwareli o amgylch Moel Tryfan a'r Fron. Daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913. Prhaodd trenau nwyddau i gludo llechi oddi yno nes i'r chwareli ddechrau cludo eu llechi i Ben-y-groes lle oedd man llwytho llechi wedi cael ei godi gan y lein fawr ym 1933. Y prif ddosbarth arall o nwyddau a gludid oedd glo ar gyfer pentrefi'r ucheldir gerllaw. Yn swyddogol, daeth pob gwasanaeth i ben ym 1937 a chodwyd y lein yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma