Moel Tryfan (mynydd)
Mynydd yn ucheldir plwyf Llanwnda yw Moel Tryfan. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r dwyrain ac fe roddodd y mynydd yr enw i bentref neu dreflan Moel Tryfan ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.
Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin cael eu eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhâd o lifogydd Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symundiadau daearegol oedd yma. Ymwelodd Charles Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Simon Ingram, The Other Tryfan yng nghylchgrawn Trail, 15.06.2016; https://www.livefortheoutdoors.com/outdoorfeatures/2016/6/30/the-other-tryfan