Moel Tryfan (mynydd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:40, 25 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynydd yn ucheldir plwyf Llanwnda yw Moel Tryfan. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r dwyrain ac fe roddodd y mynydd yr enw i bentref neu dreflan Moel Tryfan ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.

Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin cael eu eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhâd o lifogydd Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symundiadau daearegol oedd yma. Ymwelodd Chrales Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau