Gwaith Llechi Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:15, 9 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Gwaith Lechi Llifon ger Hafod-boeth tua chwarter milltir i fyny'r allt o dreflan Maes Tryfan, ar lan Nant yr Hafod, sy'n llifo i Afon Llifon. Roedd dŵr yn cael ei gyfeirio yno hefyd o lyn ger Braich Trigwr Mawr, er mwyn troi olwyn ddŵr a yrrai beiriannau'r gwaith, a gynhyrchai lechi ysgrifennu a cherrig nâdd. Robert Jones oedd enw perchennog y gwaith.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.