Melin Llwyn-y-gwalch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:28, 7 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r felin hon i'r gorllewin o fferm Llwyn-gwalch, yr ochr arall i Lôn Eifion, sef yr hen reilffordd, a bu llyn yr ochr uchaf iddi er mwyn cronni dwr o Afon Llifon. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ond wedi cael ei droi'n dŷ ers blynyddoedd olaf y 20g.

Hen blasty yw Llwyn-gwalch, a hanes y teulu'n mynd yn ôl ganrifoedd. Sonnir yn benodol am y felin ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch.

ERTHYGL AR EI HANNER

[1]

Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.