Melin Llwyn-y-gwalch
Mae'r felin hon i'r gorllewin o fferm Llwyn-gwalch, yr ochr arall i Lôn Eifion, sef yr hen reilffordd, a bu llyn yr ochr uchaf iddi er mwyn cronni dwr o Afon Llifon. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ond wedi cael ei droi'n dŷ ers blynyddoedd olaf y 20g.
Hen blasty yw Llwyn-gwalch, a hanes y teulu'n mynd yn ôl ganrifoedd. Sonnir yn benodol am y felin ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch.
Cyfeiriadau
- ↑ Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.