Chwarel y Braich
Chwarel lechi ar lethrau Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.
Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Chwarel yr Hen Fraich (neu Braichrydd). Cafodd ei datblygu yn yr 1870au a defnyddiwyd stem i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno.
Roedd wedi cau erbyn 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au.
Ffynhonnell
Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma