Ffatri Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:41, 2 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Afon Llifon yn troi olwyn ddŵr Melin wlân Tryfan', neu (yn ôl y bobl leol) Ffatri Tryfan.Safai lle saif Craigside a Chludannedd heddiw (wrth y blwch post). Mae'r hen felin wedi'i thynnu i lawr ers dechrau tridegau'r 20g. Dywed J Geraint Jenkins yn ei lyfr The Welsh Woollen Industry bod melin wlân yno cyn 1815. Melin gardio ydoedd gyda thair ffram Arkwright a ddyfeisiwyd ym 1769 ac yn cael eu defnyddio yno erbyn 1826 yn lle'r tair olwyn a ddefnyddid gynt.

Yn ei ysgrif ar y Tryfan[1], dywed W. Gilbert Williams ei fod yncredu bod Ffatri Tryfan yn mynd yn ôl i'r 18g, a'i chynnydd wedi cyd-ddigwydd â datblygiad y chwareli ar lechweddau Mynydd Cilgwyn. Dywed hefyd y gwelir cyfeiriad at rai o'r crefftwyr a weithiai yno o ganol y 18g ymlaen yn y Cofnodion Plwyf.

Cyfeiriadau

  1. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (cyf 2)