Melin Goed Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:00, 1 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y mae adeilad Melin Goed Glynllifon yn sefyll hyd heddiw, a dŵr a droïr o Afon Llifon yn dal i redeg trwy'r cafn melin at yr adeilad. Mae llawer o'r offer a ddefnyddid i gynhyrchu trydan ar gyfer plasty Glynllifon yn dal yn yr adeilad - un o adeiladau cyntaf yn y sir i gael ei oleuo gyda thrydan tua dechrau'r 20g. Defnyddid y dŵr cyn hynny ac wedi hynny hefyd i droi melin lifio coed at ddefnydd yr ystâd. Eto, mae darnau sylweddol o'r peiriannau a'r fainc lifio i'w gweld hyd heddiw.

Dyma felin isaf Afon Llifon, sy'n llifo'n dawel o'r fan hyn ar draws tir gweddol wastad at ei haber ger Tŷ Mawr.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma