Melin Cil Tyfu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:01, 31 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Cil Tyfu'n sefyll yn y ceunant i'r dwyrain o fferm bresennol Cefn Hendre, Maen Coch. Mewn ewyllys o 1693 gelwir Cefn Hendre yn Kefn alias Kefn Kîl Ddyfi. [1]. Roedd yn cael ei gyrru gan rym dŵr Afon Carrog. Erbyn hyn, nid oes dim i'w gweld.

Roedd y felin hon ym meddiant Syr John Wynno Wedir yn ystod ail hanner 16g[2], ac mae'n debyg iddo ei derbyn ar brydles oddi wrth y Goron. Gan nad yw'r ardal hon o drefgordd Dinlle wedi ei chofnodi yn nhir-rhestr Cofnod Caernarfon (1352), mae lle i gredu fod y felin wedi bod yn eiddo i arglwydd y cwmwd ac wedi pasio i feddiant Coron Lloegr ar ôl 1282. Yn sicr, fodd bynnag, mae safle Melin Cil Tyfu'n bur hen.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. LLGC Dogfennau Profiant Esgobaeth Bangor B1693-64W
  2. Archifdy Caernarfon, papurau amrywiol y Llys Chwarter