Melin Wnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:28, 31 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Wnda yn felin ŷd a wasanaethau rhan isaf plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Fe elwid yn gynharach yn Melin Pengwern, gan mai fferm Pengwern, efallai, oedd yn berchen ar y tir lle safai. Roedd yn derbyn dŵr o Afon Rhyd ar hyd cafn melin hir. Mae'r felin wedi rhoi ei henw i'r dreflan sydd wedi tyfu gerllaw, sef Felinwnda, sydd ag ysgol, depo tractorau a neuadd. Mae'r felin ei hun wedi ei droi'n dŷ annedd ers blynyddoedd lawer, er bod map Ordnans 1919 yn dal i ddangos yr adeilad fel melin ŷd..

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma