Ffynnon Beuno (Clynnog Fawr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:13, 28 Ionawr 2018 gan 213.122.249.79 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Lleolir Ffynnon Beuno ar ddiwedd pentref Clynnog Fawr. Tua 200 llath heibio Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, cyrhaeddir y ffynnon drwy lwybr byr a grisiau oddi ochr y ffordd. Mae yna ffordd osgoi o amgylch y pentref a’r ffynnon. Gorweddir y ffynnon ar waelod tir amaeth serth. [1]. [2]

Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, fe’i rhestrwyd ar 29 Mai 1968. [3]

Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, mae'r adeiladwaith gwreiddiol yn debygol o ddyfod o'r 15fed ganrif hwyr pan ailadeiladwyd Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Ychwanegwyd cerrig copa a’r manylion arall yn yr 18fed ganrif. [4]

Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr (2.6 metr x 3.9 m), chwe throedfedd o uchder. Mae'r dŵr tua 350mm o ddyfnder. Ceir feinciau ar ddwy ochr y waliau. [5]. [6] Uwchben y meinciau, mae tair cilfach yn y waliau, efallai ar gyfer dillad ac eiddo'r ymdrochwr. [7]

Ym mis Mai 2010, difrododd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu mewn i'r dŵr. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal ymwelwyr oherwydd fod gweddillion y ffynnon yn ansafadwy.[8] Nawr, mae'n edrych yn lân, daclus ac wedi gofalu amdani; mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatáu mynedfa i'r ffynnon. Mae giât yn diogelu’r ffynnon, ond nid yw ynghlo. [9]

Cysegrwyd y ffynnon i Sant Beuno. [10] Mae Clynnog Fawr ar Daith Pererin Gogledd Cymru trwy Ben Llŷn i Ynys Enlli, ac roedd yn fan pwysig i bererinion aros. [11]

Yn ogystal â bod yn ffynhonnell dŵr i'r gymuned fynachaidd gerllaw, defnyddiwyd y ffynnon i wella amrywiaeth o afiechydon, clefydau a chyflyrau meddygol fel y llechau, epilepsi, nerfusrwydd, problemau llygaid ac analluedd. [12] Daethpwyd plant yn enwedig yno i iacháu; teithiodd pobl o ymhell i ffwrdd i gael triniaeth. [13]

Ar ôl i’r claf ymdrochi yn y ffynnon, daethpwyd ef i Gapel Beuno, Clynnog Fawr a’i orwedd i gysgu ar wely o frwyn ar garreg fedd Beuno er mwyn gwella salwch. [14] Defnyddiwyd y ffynnon mor ddiweddar â'r 18fed ganrif hwyr – pan ddaeth yr hanesydd Thomas Pennant yno yn yr 18fed ganrif, gwelodd ar garreg fedd Beuno “a feather bed, on which a poor paralytic from Meirionyddshire had lain the whole night”. [15]

Ychwanegwyd crafiadau o bileri Gapel Beuno, Clynnog Fawr i ddŵr sanctaidd y ffynnon i iacháu dallineb. [16] Lladdwydd heffrod wrth y ffynnon fel cynnig aberth crefyddol i Sant Beuno, (roedd hyn yn arferiad cyn-Cristnogaeth). [17]

  1. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  2. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  3. https://archwilio.org.uk/arch/query/page.php?watprn=GAT103&dbname=gat&tbname=core.
  4. An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: Volume II – central, The Cantref of Arfon and the Commote of Eifionydd gan Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales; H.M. Stationery Office (1960), tudalen 57.
  5. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  6. Sacred springs: in search of the holy wells and spas of Wales gan Paul Davis; Blorenge Books (2003), tudalen 100.
  7. Wales gan Litellus Russell Muirhead; E. Benn (1953), tudalen 76.
  8. http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/fury-historic-clynnog-well-vandalised-2756200].
  9. Sylwadau awdur yr erthygl hon drwy ymweld â’r ffynnon ym mis Mawrth 2017
  10. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  11. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  12. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  13. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  14. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  15. A Tour in Wales, MDCCLXXIII gan Thomas Pennant; Cambridge University Press (2014), tudalen 209.
  16. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  17. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.