Coffi yn Uwchgwyrfai, 1850
Nid yw'n arferol meddwl am Gymry cyffredin y 19g yn yfed fawr o goffi. Yr oedd te'n ddiod o ddewis gan y werin, os nad oeddynt yn ffafrio cwrw bach neu seidr, ond yn gallu fforddio te. Serch hynny, roedd groseriaid y cwmwd yn barod i ddiwallu awydd rhai cwsmeriaid am goffi aac roedd dau gwmni, John Cassell a John Owen, y ddau o Lundain, yn hysbysebu'n eang yn y Wasg tua 1850, Aeth Cassell mor bell â rhybuddio cwsmeriaid rhag coffi ei brif gystadleuydd yn y farchnad, John Owen, gan eu hannog i fynd at ei asiantau fo i brynu coffi. Serch hynny, rhyw ddwsin o asiantau ar draws Gogledd Cymru, a neb yn nes na Chaernarfon, lle roedd J.R. Jones, groser ar Y Maes, yn asiant - neu Bwllheli, lle roedd R. Williams, ger Gwesty'r Goron, hefyd yn gwerthu Coffi Cassell.[1]
Roedd John Owen yn gwerthu ei goffi'n fwy eang ar draws Uwchgwyrfai trwy ddelio'n union gyrchol â groseriaid y fro, ac mae o'n eu rhestru mewn hysbysebion tudalen flaen, a hynny'n weddol gyson. Erbyn mis Mai 1850, roedd siopydd groser mewn pum pentref yn stocio ei goffi - a hynny, yn ddigon diddorol, mewn pacedi yr un faint â rhai Mr Cassell. Mae dyfyniad isod o'r Amserau yn rhoi darlun o ffasiwn newydd mewn diodydd yn cychwyn[2]:
COFFI JOHN OWEN. Gan fod Coffee wedi dod eisioes ac yn debyg o fod yn un o'r cynnaliaethaa llifnoddol mwyaf cyffredinol yn y deyrnas y mae o bwys i'w gael yn dda o ran ei ansawdd, yn beraidd o ran ei flas, ac yn rhydd oddiwrth unrhyw gymysgedd niweidiol. Y mae Coffee JOHN OWEN yn cyfarfod archwaeth yr oes, oblegid y mae y Coffee rhagorawl hwn yn gymmysgedd Philosophaidd o'r rhywiau mwyaf dewisol a gynhyrchir yn y byd. Y mae yn bigiadau o gynnyrch Mocha, Costa Rica, Java, a thyfiadau mynyddoedd Jamaica, pa rai a wneir i fynu yn y fath fodd gan John Owen fel ac i ddwyn allan fawr gryfder y Mocha, pereidd-dra y Costa Rico, melusdra ardderchog Java, a thynerweh rhyfeddol y Jamaica yr hyn a gyfansodda y fath raddau o gryfdwr, ardderchowgrwydd, a blas nas gellir ei gael yn unman arall. Gellir cael unrhyw bwysau, o ddwy wns i fyny, ganddynt am y prisiau canlynol:- *Coffee John Owen, Rhif 1 1s. 0c. Cryf a da. *Coffee John Owen, Rhif 2.1s. 4c. Rhagorol dda. *Coffee John Owen, Rhif 3 1s. 8c. Y mae y coffee hwn yn faethlon, cryf, a blasus, boddlona bawb a'i pryno. *Coffee John Owen, Rhif 4 2s. 0c. Hwn ydyw y goraf a ellir ei gael am unrhyw bris, gan ei fod yn gymysgedd o'r Planhigion goraf yn y byd. D.S.— Y mae enw John Owen ar bob swpyn o'r Coffee, heb yr hwn nid oes yr un yn ddidwyll. Ystordy, 55, Wenlock Street, Hoxton New Town, Llundain. Y gwerthiant cyflym a gafwyd i'r Coffee hwn yn Llundain, sydd yn brawf o'i ragoriaethau clodwiw. Y mae John Owen yn penderfynu na chaiff dim fod yn eisiau o'i du ef, tuag at alluogi y cyffredin i gael y Coffee goreu a gynnyrchir yn y byd; y mae rhan fawr o drigolion Prydain, heb archwaethu Coffee yn ei berffeithrwydd hyd yn hyn, gan hyny, erfynir arnynt i brynu Coffee John Owen, yr hwn a ammoda sefyll yr uwchaf yn y fasnach hon. Profwch ef a bernwch trosoch eich hunain.
Yn dilyn y geriau hyn , ceir rhestr o bron i gant o werthwyr y coffi ar draws Gogledd Cymru a'r Gororau, ac mae hyn hefyd yn ddefnyddiol i weld pwy ac ym mha leoedd yn Uwchgwyrfai yr oedd groseriaid yn bod tua chanol y 19g. Groseriaid Uwchgwyrfai a restrir yn hysbyseb fis Mai oedd:
- Clynnog: Ebeneser Thomas
- Y Groeslon: John Jones
- Llanaelhaearn: Griffith Humphreys
- Rhostryfan: Evan Thomas
- Tal-y-sarn: John Ll. Jones
Efallai mai'r peth mwyaf diddorol ynglŷn â'r rhestr hon yw'r ffaith ei bod yn cynnwys pentrefi diwydiannol yn hytrach nag ardaloedd lle roedd mwy o ffermwyr cefnog yn tueddu byw, sef y bobl oedd yn siopa'n fwy cyson yn y trefi.
Roedd yn amlwg bod John Owen wedi taro ar farchnad lewyrchus, beth bynnag oedd ansawdd ei goffi. Yr unig wahaniaeth yn ei brisiau oedd y ffaith ei fod yn gwerthu'r coffi rhataf am rôt (4c) yn llkai na choffi rhataf Cassell. Erbyn Medi 1850, roedd y rhwydwaith o groseriaid a werthai coffi John Owen wedi ymestyn ar draws y cwmwd, a cehir rhestr fwy defnyddiol fyth o roseriaid y fro yr adeg honno yn y papur lleol[3]:
- Clynnog: E. Thomas
- Llanaelhaearn: G. Humphreys
- Y Groeslon: J. Jones
- Llanllyfni: O. Williams
- Pen-y-groes: R. Jones
- Pontlyfni: R. Jones
- Rhostryfan: D. Williams
- Rhostryfan: E. Thomas
- Tal-y-sarn: J. Jones
- Tal-y-sarn: D. Frasser