Ffynnon Beuno (Clynnog Fawr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:29, 25 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, a gafodd ei restru ar 29 Mai 1968. Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, a chafodd llogeiliau eu hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 18fed ganrif; mae'r gweddill yn debygol o fod o'r 15fed ganrif pan gafodd Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr ei hailadeiladu. Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr, uchder o 6tr. Mae'r dŵr tua 350mm dyfn. Mae yna feinciau ar ddwy ochr y waliau. Uwchben y meinciau, mae yna 3 agen sgwâr yn y waliau, a elwir yn ledged recesses, efallai ar gyfer dillad a meddiannau'r ymdrochwr.[1]

Cysegrwyd ffynnon i Beuno Sant. Mae Clynnog Fawr ar lwybr y pererin trwy Ben Llŷn i Ynys Enlli, ac roedd yn le pwysig i bererinion stopio. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell dŵr i'r gymuned fynachaidd gerllaw, defnyddiwyd y ffynnon i wella amrywiaeth o afiechydon a chyflyrau meddygol fel y clefyd cadarn (epilepsy), y llech (rickets), nerfusrwydd (nervousness), problemau llygaid ac analluedd, plant yn benodol.

Cafodd y ffynnon ei defnyddio mor ddiweddar â'r 18fed ganrif hwyr.

Ym mis Mai 2010, dinistriodd fandaliaid y ffynnon, a chafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu i mewn i'r dŵr. Ar ôl hynny, cafodd giât y ffynnon ei gloi i atal ymwelwyr oherwydd nad oedd yr adeilad yn ddiogel. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal mynediad. [2] Nawr, mae'n edrych yn lân ac yn daclus ac mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatau mynedfa i'r ffynnon.