Einion ap Madog
Ychydig a wyddys am fywyd personol Einion ap Madog (fl. 1237). Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel Llwyth Cilmin Droetu,sef Cilmin Droed-ddu a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwchgwyrfai. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd diweddarach Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Enwir tad Einion, Madog ap Rhahawd, yn y testun achyddol 'Bonedd Gwŷr Arfon' a chofnodir 'gwely (tir teuluol) Gwyrion Rhahawd' yn ardal Dinas Dinlle, ar ddechrau'r 14g.[1]
Dim ond un gerdd o waith Einion ap Madog ap Rhahawd sydd wedi goroesi. Mae'r testun ar glawr yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach sy'n deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n awdl foliant fer i Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Cafodd ei chyfansoddi ar ôl i Gruffudd gael ei ryddhau o gaethiwed yn 1234 a chyn ei ail-garcharu yn 1239, cyfnod pan reolai Gruffudd dros ei dir etifeddol yn Llŷn ac Eifionydd a rhan o Bowys, dan awdurdod ei dad, â'i lys yng Nghastell Cricieth yn ôl pob tebyg.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838). Gweler cyfieithiad yn Cof y Cwmwd dan Stent Uwchgwyrfai 1352
- ↑ Wicipedia, erthygl ar Einion ap Madog ap Rhahawd, [1], cyrchwyd 8.12.2025. Sail yr erthygl fer hon yw Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.