Ffynnon Beuno (Clynnog Fawr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:31, 25 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, cafodd ei restru ar 29 Mai 1968. Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, a chafodd llogeiliau eu hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 18fed ganrif; mae'r gweddill yn debygol o fod o'r 15fed ganrif pan gafodd Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr ei hailadeiladu. Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr, uchder o 6tr. Mae'r dŵr tua 350mm dyfn. Mae yna feinciau ar ddwy ochr y waliau. Uwchben y meinciau, mae yna 3 agen sgwâr yn y waliau, gelwir yn "ledged recesses", efallai ar gyfer dillad a meddiannau'r ymdrochwr.[1] Yn Mai 2010, dinistriodd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu mewn i'r dŵr. Ar ôl hynny, cafodd olion y ffynnon ei gloi i atal ymwelwyr oherwydd nad oedd yr adeilad yn stabl. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal mynediad. [2] Nawr, mae'n edrych yn lân, daclus a gynhelir, mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatau mynedfa i'r ffynnon. Cafodd y ffynnon ei defnyddio mor ddiweddar â'r 18fed ganrif hwyr. Cysegru'r ffynnon i Sant Beuno. Mae Clynnog Fawr ar y llwybr pererin trwy'r Llŷn i Ynys Enlli, ac roedd yn le pwysig i bererinion stopio. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell dwr i'r gymuned fynachaidd gerllaw, defnyddiwyd y ffynnon i wella amrywiaeth o afiechydon a chyflyrau meddygol fel y clefyd cadarn (epilepsy), y llech (rickets), nerfusrwydd (nervousness), problemau llygaid ac analluedd, plant yn benodol.