Betws Gwernrhiw
Lleolir safle Betws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.[1] Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.
Mae cofnodion y Llys Chwarter yn tystio i'r ffaith fod y Betws yn agored fel tafarn tua 1635 gan fod un Nicholas Pyrs wedi ei dryddedu i gadw tŷ cwrw yno; ac i'r fan honno aethai sgweier y Tryfan yn reolaidd i yfed yn drwm.[2]
Erbyn tua 1660, a'r lle'n barhau'n dafarn, mae sôn bod Edmund Glynn wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger Glan-rhyd.[3] Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu Glynllifon.[4]
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n Goed y Betws.
Y mae ffynnon, sef Ffynnon Edliw neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai edliw a gwernrhiw oedd yr un gair ar un adeg.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
- ↑ W. Gilbert Williams, Y Tryfan yn Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.2 (1940)), t. 61
- ↑ W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
- ↑ P.B. Williams, The Tourist's Guide through the county of Caernarvon,(Caernarfon, 1821), [1]