Tafarn y Brynkir Arms
Y dafarn gyntaf ym mhentref Pen-y-groes wrth deithio o gyfeiriad Caernarfon oedd y Brynkir Arms a godwyd tua 1837.[1] Mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw, gyda'r enw "Gwylfa".
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Griffiths oedd y tafarnwr.[2] Yn gymharol fuan wedyn fe 'i hetifeddwyd gan feddyg oedd yn ddirwestwr pybyr a roddodd y drwydded heibio, gan newid yr enw i "Bod-feddyg".[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Owen Owen, Hen Atgofion am Ben-y-groes sydd ar y Cof: Disgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes tua 1870
- ↑ Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
- ↑ Gwybodaeth deuluol oddi wrth John Dilwyn Williams