Tafarn y Brynkir Arms
Y dafarn gyntaf ym mhentref Pen-y-groes wrth deithio o gyfeiriad Caernarfon oedd y Brynkir Arms a godwyd tua 1837.[1] Mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw, gyda'r enw "Gwylfa".
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Griffiths oedd y tafarnwr.[2] Yn gymharol fuan wedyn fe 'i hetifeddwyd gan feddyg oedd yn ddirwestwr pybyr a roddodd y drwydded heibio, gan newid yr enw i "Bod-feddyg".[3]