Tafarn y Brynkir Arms

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:19, 28 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y dafarn gyntaf ym mhentref Pen-y-groes wrth deithio o gyfeiriad Caernarfon oedd y Brynkir Arms a godwyd tua 1856. Mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw, gyda'r enw "Gwylfa".

Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Griffiths oedd y tafarnwr.[1] Yn gymharol fuan wedyn fe 'i hetifeddwyd gan feddyg oedd yn ddirwestwr pybyr a roddodd y drwydded heibio, gan newid yr enw i "Bod-feddyg".[2]

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  2. Gwybodaeth deuluol oddi wrth John Dilwyn Williams