Y Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:23, 29 Medi 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref rhwng tref Caernarfon a Dinas yw'r Bontnewydd. Mae ffordd yr A487 yn mynd drwy ganol y pentref, gan fynd ymlaen i gyfeiriad Pwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol, a godwyd tua 1840, roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at bont flaenorol dros Afon Gwyrfai. Sonnir am le a elwid the new brige ger Caernarfon ym 1552.[1] Adeiladwyd y bont bresennol ym 1840.[2]

Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai yma ac acw ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod yr 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr Isgwyrfai i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra oeddent yn teithio o Lŷn tua Chaernarfon.

Roedd Y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a Llanwnda tan ddegawd olaf yr 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys Plas Dinas hyd at Ffrwd Cae Du.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwater, Ebrill 1552, t.5
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/40