Pennarth (fferm)
Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Er i deulu Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.[3] Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.[4] Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.[5] Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru),[6]. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,[7] a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.[8]
Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi dal fel ystad fechan gyda'i gilydd hyd at ddyddiau'r map degwm tua 1844. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.[9] Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog erbyn hynny, a thenant Pennarth oedd un John Jones. Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau. Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur Erewhon. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.[10]
Yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46 y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/7574
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.270
- ↑ Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15
- ↑ Archifdy Caernarfon, XM1041/12
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.18
- ↑ Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55
- ↑ LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [1], cyrchwyd 18.9.2025
- ↑ LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog
- ↑ Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [2], cyrchwyd 17.9.2025