Damweiniau Awyrennau yn Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:03, 20 Medi 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Awyren Halifax yn taro Braich y Cwm

Ar 3 Medi 1943 roedd awyren fomio Halifax ar hediad ymarfer pell o'i chanolfan yng ngorsaf yr Awyrlu yn Lindholme yn Swydd Efrog. Erbyn canol y prynhawn y diwrnod hwnnw roedd cymylau trwchus dros Yr Eifl ac oddeutu 3.00p.m. fe aeth yr awyren yn erbyn ochr Braich y Cwm uwchlaw Trefor. Ffrwydrodd yr awyren a malu'n ddarnau wrth daro'r mynydd a lladdwyd y criw o saith yn y fan a'r lle. Yn fuan wedyn llwyddodd tîm achub o wersyll yr Awyrlu yn Llandwrog i gyrraedd safle'r ddamwain ond ni allent wneud dim ond cludo'r cyrff oddi ar y mynydd. Dros y dyddiau dilynol archwiliwyd gweddillion yr awyren a chludwyd llawer o'r darnau oddi yno. Fodd bynnag, gadawyd cryn dipyn ar ôl ond diflannodd y rhain yn raddol dros y blynyddoedd er bod rhyw ychydig o fân ddarnau yn parhau i ddod i'r golwg ymysg y grug a'r eithin. Erbyn hyn gosodwyd cofeb ar y safle ac arni enwau'r rhai a gollodd eu bywydau dros 80 mlynedd yn ôl bellach.

Awyren Mosquito ar Mynydd Mawr

Nos Fercher 1 Tachwedd 1944 roedd awyren Mosquito o orsaf yr Awyrlu yn Cranfield, Swydd Buckingham yn hedfan dros Ogledd Cymru ar uchder o tua 2,000 o droedfeddi pan drawodd Mynydd Mawr uwchlaw Waunfawr. Lladdwyd y peilot a'r cyfeiriwr (navigator) yn syth. A hithau'n dywyll nos cafodd yr Uned Achub a anfonwyd i'r safle drafferth mawr i ganfod lle yn union roedd yr awyren wedi taro'r mynydd ond tua chanol nos cafwyd hyd iddi rhwng copa'r mynydd a Chraig Cwm Bychan a llwyddwyd i ddod â'r ddau a laddwyd oddi ar y mynydd. Ffrancwr oedd y peilot, Capten J.R.G. de Thoisy yn perthyn i Lu Awyr Ffrainc Rydd a Belgiad oedd y cyfeiriwr, Swyddog Hedfan J.A.G.H. Marchal. Roedd darnau sylweddol o'r awyren hon i'w gweld hyd yn ddiweddar ar y safle gydag un injan yn y ffrwd sy'n mynd i lawr i Lyn Cwellyn.

[i'w barhau]