Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai
Roedd Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer bo gymdeithasau gyfeillgar a sefydlwyd yng nghanol y 19g. Byddai'r aelodau'n talu tanysgrifiad a, phe baent yn dioddef salwch neu dlodi, byddai modd cael rhywfaint o arian gan y gymdeithas fel cynhaliaeth. Trefniwyd swper blynyddol neu gyngherdd weithiau hefyd. Roedd y cymdeithasau hyn yn niferus yn ardalydd diwdiannol megis ardal y chawareli ac nid syndod felly yw'r ffaith fod nifer wedi bodoli yn Uwchgwyrfai.
Yn achos Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai, fe'i sefydlwyd ym 1837. Ceir adroddiad yn y wasg am y dathliadau ay Ddydd Iau Dyrchafael, 1840, pan nodwyd trydydd pen-bleydd ei sefydlu. Ymgasglodd yr aelodau yn ystod y bore yn neuadd y gymdeithas, sef Ystafell Glwb Moel Tryfan, er mwyn ystyried y cyfrifon ac ati. O'r fan honno, ymdeithiodd yr aelodau tu o i fand lleol trwy'r plwyf i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, lle pregethodd curad y plwyf, y Parch. M. Thomas, ar Mathew 22, p.39. O'r fan honno, aethant ymlaen, yng