Ras Gŵn Defaid Trefor 1966
A brwydr yr iaith yn ei hanterth cyntaf trwy Gymru benbaladr, bu i drefnwyr Ymryson Cŵn Defaid pentref Trefor wneud eu rhan fechan, ond pwysig, hwythau dros yr iaith. Dyma’r hyn a gofnodir yn rhifyn 2 Mehefin 1966 o’r Cymro :
“POPETH YN GYMRAEG – Bu digonedd o Gymry Cymraeg yn ymhel â rasus cŵn defaid ar hyd y blynyddoedd, ond hyd yr wythnos hon ni welsom erioed raglen ras gŵn yn Gymraeg [nid dwyieithog, sylwer]. Ond dyma un yn gweld golau ddydd o’r diwedd – gan bwyllgor Ymryson Cŵn Defaid Trefor, sir Gaernarfon. Yn eu rhaglen hwy y mae rhestr y dosbarthiadau, y rheolau, y ffurflen gofrestru – popeth yn Gymraeg.”
Ie, ac yn Gymraeg YN UNIG. GJ