Treialon Cwn Defaid Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriwyd o Ras Gŵn Defaid Trefor 1966)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Am rai blynyddoedd bu'r Treialon Cŵn Defaid yn rhan o'r calendr blynyddol yn Nhrefor, er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr Eisteddfod, y carnifal, y Sioe Flodau, a'r Sioe Amaethyddol yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis Clynnog Fawr, Pontlyfni a Llanllyfni. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi.

Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlannu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.[1]

A brwydr yr iaith yn ei hanterth cyntaf trwy Gymru benbaladr, bu i drefnwyr Ymryson Cŵn Defaid pentref Trefor wneud eu rhan fechan, ond pwysig, hwythau dros yr iaith. Dyma’r hyn a gofnodir yn rhifyn 2 Mehefin 1966 o’r Cymro :


POPETH YN GYMRAEG – Bu digonedd o Gymry Cymraeg yn ymhel â rasus cŵn defaid ar hyd y blynyddoedd, ond hyd yr wythnos hon ni welsom erioed raglen ras gŵn yn Gymraeg [nid dwyieithog, sylwer] . Ond dyma un yn gweld golau ddydd o’r diwedd – gan bwyllgor Ymryson Cŵn Defaid Trefor, sir Gaernarfon. Yn eu rhaglen hwy y mae rhestr y dosbarthiadau, y rheolau, y ffurflen gofrestru – popeth yn Gymraeg.

Ie, ac yn Gymraeg YN UNIG.


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol