Ras Gŵn Defaid Trefor 1966

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:33, 24 Ionawr 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

A brwydr yr iaith yn ei hanterth cyntaf trwy Gymru benbaladr, bu i drefnwyr Ymryson Cŵn Defaid pentref Trefor wneud eu rhan fechan, ond pwysig, hwythau dros yr iaith. Dyma’r hyn a gofnodir yn rhifyn 2 Mehefin 1966 o’r Cymro :

  “POPETH YN GYMRAEG – Bu digonedd o Gymry Cymraeg yn ymhel â rasus cŵn defaid ar hyd y blynyddoedd, ond hyd yr wythnos hon ni welsom erioed 
  raglen ras gŵn yn Gymraeg [nid dwyieithog, sylwer].
  Ond dyma un yn gweld golau ddydd o’r diwedd – gan bwyllgor Ymryson Cŵn Defaid Trefor, sir Gaernarfon. Yn eu rhaglen hwy y mae rhestr y 
  dosbarthiadau, y rheolau, y ffurflen gofrestru – popeth yn Gymraeg.”

Ie, ac yn Gymraeg YN UNIG. GJ