Eisteddfod Gadeiriol Clynnog
Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol fawr ym mhentref Clynnog Fawr ar diwrnod y Llungwyn, 1890, a hynny mewn pabell sylweddol a ddaliai ymhell dros fil o bobl. Serch hynny, nid eithriad na digwyddiad anghyffredin oedd yr eisteddfod hon, gan fod eisteddfodau llawn mor lwyddiannus yn cael eu cynnal mewn sawl man yn Nyffryn Nantlle a'r wlad yn gyffredinol. Arwydd o boblogrwydd eisteddfodau lleol ar y pryd oedd y ffaith fod y babell yn anghyfforddus o lawn. Ni ellid gwneud yn well na dyfynnu o'r wasg yr hanes am yr eisteddfod hon:
EISTEDDFOD GADEIRIOL CLYNNOG. Cynhaliwyd yr Eisteddfod uchod, y Llungwyn, mewn pabell eang a chyfleus yn ardal ramantus Clynnog. Gan fod yr hin mor ffafriol, a Chlynnog yn lle mor atdyniadol, yr oedd cannoedd o ddyeithriaid yn dylifo i'r pentref yn gynar ar y diwrnod. Ni welwyd erioed gynulliadau mor lluosog na gwyl lenyddol mor odidog yn y rhanau hyn o'r wlad ag a gafwyd yn yr eisteddfod hon. Yr oedd y babell - yr hon a gynwysai o 1200 i 1800 o bersonau - yn anghysurus o lawn. Beirniaid y gwahanol destynau oeddynt:— Mr Thos. Owen, Mus. Bac., Llanengan; Mr H. Tudwal Davies; Parch R Humphreys, Bontnewydd; Mrs Acland, Mrs Prichard, Mrs Owen, Mri Joseph Sharpe, J. A. Jones, Rowland Rowlands, Mr D Pritchard, Trevor Lewis, Daniel Evans, Griffith Williams a J. Williams. Datganwyd yn ystod y cyfarfodydd gan Mrs Acland, Mrs Henderson Jones, a Huw Peris. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr J. W. Roberts, Glynllifon. Cyfarfod y Prydnawn.--Llywydd, Parch Wm. Mathias Griffith, M.A.; arweinydd, Parch Richard Humphreys. Wedi i Huw Peris ddatgan “Hen wlad fy nhadau", a'r gynulleidfa yn uno yn y cydgan, awd yn mlaen gyda'r rhaglen, a gwobrwywyd y rhai canlynol: -Kate Jane Jones, J. R. Williams, Mary Pritchard, David Jones, John S. Jones, Wm. Ellis Evans, R. H. Jones, Catherine E. Hughes, Robert Owen, Ioan ap Ioan, Tal-y-sarn; Misses Jane Hughes, Cwmgwasan; Ann Griffith, Clynnog; Miss Annie E. Owen, Caergybi; Miss Hannah Griffith, Vermont, America; Miss Ellen Roberts, Trevor; Miss Mary Sharpe, Trevor; Mr A. Jones, Miss A. J. Roberts. Bronygan; Côr Tal-y-sarn, dan arweiniad Mr O. E. Owen. Rhwng y ddau gyfarfod cymerodd y tair cystadleuaeth ddyddorol a ganlyn le: - Gweithio setts, hollti llechi, a gollwng rhaff bach. Yr enillwyr ar weithio setts oeddynt dosp. 1, Mr Thomas Jones, Trevor; dosp. 2, Mri R. R. Jones a J. R. Thomas yn gyfartal. Hollti llechi: Mr Watkin Griffith, Pentwr. Rhaff bach. Mr Robert Rowlands, Cwmceiliog. Cyfarfod yr Hwyr.—Llywydd, Mr. H. Tudwal Davies, H.S.; arweinydd, Hywel Tudur. Dechreuwyd y cyfarfod gyda detholiad ar y berdonnog, gan Mr J. W. Roberts. Wedi hyny cafwyd anerchiadau hwyliog gan y beirdd canlynol: Mri L Williams (Aber), S. R. Trevor, a Cenin. Gwobrwywyd y rhai a ganlyn :— Mrs Jones, Brynaerau Cottage; Miss C E. Griffith, Trevor; Mr H. M. Roberts, Llanllyfni; Mrs Hughes, Newborough Terrace; Mrs Jones, eto; J. E. Owen. Gyfelog; Mri Alexander Henderson a J. W Jones; Annie E. Jones, Fourcrosses; Thos. Evans, Gyrn Goch; Mr Henderson Jones a Mr Alex. Henderson. Daeth dan gôr yn mlaen i ymgeisio am y brif wobr o 8b a chadair dderw (o wneuthuriad Mr T. Humphreys, Caernarfon), sef Côr Undebol Clynnog, dan arweiniad Mr J. Thomas a Chôr Llanllyfni, dan arweiniad Mr J. W. Jones. I gôr Llanllyfni y dyfarnwyd y wobr, gyda chanmoliaeth. Cafwyd Eisteddfod dra llewyrchus ym mhob ystyr, ac y mae clod yn ddyledus i bawb am ymddwyn mor siriol a boneddigaidd.[1]
Diddorol yw sylwi ar y cystadlaethau torri setiau ithfaen a hollti llechi a oedd yn rhan o'r achlysur,er mwyn cynnwys talentau llai cyheoddus. Diddorol hefyd yw sylwi ar bresenoldeb Mrs. Acland, Saesnes yn ôl pob golwg, sef gwraig Arthur Acland, a fu'n henadur ar y Cyngor Sir; roedd y teulu'n treulio llawer o amser yn ei dŷ, Plas-y-bryn. Tuedd yr oes oedd rhoi lle i bobl ddi-Gymraeg oedd â chysylltiadau lleol mewn digwyddiadau a oedd, yn eu hanfod, yn gwbl Gymraeg.
- ↑ Y Genedl Gymreig, 4.6.1890. t.7