Sieffre Trefnant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:15, 28 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sieffre Trefnant (neu Galfridus de Treffenant) oedd rheithor neu brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn ail hanner y 15g a fo oedd yn gyfrifol am sicrhau siarter gan y brenin Iorwerth IV yn cadarnhau hawl y sefydliad i freindaliadau a thiroedd eang a roddwyd i'r abaty a'r eglwys golegol gannoedd o flynyddoedd ynghynt.

Nid oes fawr arall yn wybyddus am Sieffre Trefnant, ar wahân i'r ffaith mai ef, fel profost, oedd y prif offeiriad o'r pum offeiriad cyfranogol a rannai ddyletswyddau'r eglwys a'i his-eglwysi megis Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda ac Eglwys Llanfaglan.

Mae awgrym wedi ei wneud mai angen gwerthu peth o'r eiddo a restrir yn y siarter oedd ar Sieffre, er mwyn cychwyn ar y gwaith tra chostus o godi eglwys newydd fel canolfan bererindota ar safle'r hen sefydliad. Byddai siarter gan y brenin yn arwydd sicr mai ganddo ef oedd yr hawl i werthu. Mae'n bur debyg bod y rhannau hynaf o'r eglwys bresennol wedi eu codi yn ystod ei gyfnod fel profost, ac yn sicr wedi'u cwblhau erbyn 1486 - hynny yw, yn fuan iawn ar ôl marwolaeth Iorwerth IV ym 1483.[1]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.36