Moweddus
Roedd Moweddus yn barsel o dir yn ardal Clynnog Fawr sydd yn cael ei enwi mewn dogfennau o'r Canol Oesodd megis Siarter Eglwys Clynnog Fawr. Nid oes sicrwydd ble oedd Moweddus, gan fod yr enw wedi cael ei golli, heblaw am enw'r nant sydd yn rhedeg heibio i swyddfa Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog, ac a elwir erbyn yn yn Afon Weddus. Roedd yna bont o'r enw Pont Weddus hefyd.
Roedd Moweddus yn un o'r darnau eiddo a roddwyd, yn ôl Siarter Eglwys Clynnog Fawr, i abaty neu eglwys golegol Clynnog Fawr, a hynny gan ddyn o 'r enw Rhodri ap Merfyn. Mae'n debyg mai'r un gwr roddodd Bodellog i'r abaty.[1]
Mae'n rhesymol i ni dybio mai tir ger yr Afon Weddus oedd y tir hwn. Byddai hynny'n lleoli'r tir naill ai i dde-ddwyrain pentref presennol Clynnog Fawr yng nghyffiniau Hafon-y-wern, neu ar y gwastatir ger Cefn Gwreichion (lle mae Pont Weddus) a Thŷ Coch, lle mae'r afonig yn rhedeg i'r môr.
Perygl yw mentro esbonio enwau lleoedd. Tybed a oes yr gair "meufedd" yn cael ei adlewyrchu yma, sef gair sydd yn golygu cyfoeth, golud, digonedd.[2] Os felly, byddai Mefeddus/Moweddus yn gallu cyfeirio at dir cyfoethog.