Robert Gwyneddon Davies

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:29, 18 Hydref 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Gwyneddon Davies (1870-1928), a aned yng Nghaernarfon, yn gyfreithiwr yn y dref honno. Ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol Y Goleuad. Ei fam oedd Mary Davies, yn wreiddiol o Langwnnadl (g.1836).

Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Prifysgol Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.[1] Roedd hefyd yn ynad heddwch, yn aelod o'r Cyngor Sir, cadeirydd y Pwyllgor Addysg, ac yn ei dro'n Uchel Siryf y sir.

Gwraig iddo oedd y gantores a'r arbenigwraig ar alawon gwerin Cymreig, Grace Gwyneddon Davies, (1878-1944). Priododd y ddau ym 1909 yng Nghapel Charing Cross, Llundain, a hynny ar ôl cwrdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906. Ysywaeth, ni chawsant blant. Ymgartrefodd y cwpl yn Graeanfryn, Llanwnda, (hen gartref Simon Hobley), gan ddod yn aelodau amlwg a gweithgar o'r capel lleol, Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda. Daeth Graeanfryn yn ganolfan ddiwylliannol i'r ardal, a chynhelid nosweithiau cerddorol yno'n rheolaidd. Atyniad pellach oedd yr ardd nodedig. Yr oedd David Lloyd George a gwleidyddion amlwg eraill yn ymwelwyr cyson â Graeanfryn.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar-lein, erthygl am ei dad [1]
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein, erthygl am Grace Gwyneddon Davies [2]